Cyngor Tref Aberteifi
Mae hanes Cyngor Tref Aberteifi yn ymestyn nôl i 1653 er mai ers 1973 y mae yn ei ffurf bresennol gan i Ddyfed – ac yn ddiweddarach Ceredigion, gymryd drosodd y mwyafrif o’i weithgareddau. Mae Cadeirydd Cyngor y Dref, sy’n cael ei ethol yn flynyddol yn gweithredu fel Maer y Dref. Gan gario allan
y dyletswyddau traddodiadol sy’n cynnwys Seremoni gwneud y Maer, Gwasanaeth Dinesig y Maer, Dydd Sul y Cofio, Y Sioe Amaethyddol, Dydd Sadwrn Barlys a Dawns y Maer – rhain yn ogystal â chefnogi’r gwanahol glybiau a chymdeithasau.
Mae rôl y Maer yn dyddio nôl i 1394 pan roddwyd yr haul, gan Rhisiart II
i fwrdeiswyr Aberteifi ethol Maer. Y Maer pressennol yw’r 614ed yn y llinach.
Mae Cyngor y Dref yn Ymddiriedolwr Elusen Brenin Siar V ac mae ganddo gyfrifoldeb
llawn i gynnal a rheoli’r caeau chwarae sy’n gartref i dimoedd Rygbi Pêl Droed
a’r Clwb Bowlio. Mae gan y Cyngor gyfrifoldebau eraill, yn cynnwys rhai goleuadau,
cabanau aros bysiau, llwybrau o amgylch y dref, basgedi crog a phlanhigion.
Yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi cymryd cyfrifoldeb i ariannu teledu cylch cyfyng
y dref. Ddwywaith y flwyddyn, bydd y Cyngor yn dosbarthu grantiau i gefnogi
clybiau chwarae a chymdeithasau lleol. Mae hefyd yn rhoi cymorth ariannol
i sefydliadau lleol a digwyddiadau yn cynnwys Gŵyl Fawr Aberteifi, Cymdeithas
Hanes Aberteifi, Theatr Mwldan a Menter Aberteifi. Mae’r Cyngor yn rhoi ei
farn i Gyngor Ceredigion ar geisiadau cynllunio a phynciau lleol ac yn cyfarfod
yn ffurfiol ar y dydd Mawrth cyntaf bob mis.

cymraeg
english